Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddod a stigma a gwahaniaethu o ran iechyd meddwl i ben yn y gweithle. Mae’r cwrs hwn i uwch reolwyr a rheolwyr llinell i sicrhau ein bod yn creu gweithle lle nad oes yn rhaid i unrhyw un ddioddef gwahaniaethu oherwydd problem iechyd meddwl. Byddwch yn dysgu sut i adnabod pan fo aelod o staff yn stryffaglu a sut y gallwch eu cefnogi’n broffesiynol a’u hatgyfeirio at y gwasanaethau cymorth priodol. Mae’r sesiwn hon yn gyfrinachol.
Cynnwys Cwrs
• Gwahanol fodelau iechyd meddwl• Sut y ceir diagnosis o salwch meddwl
• Achosion, arwyddion a symptomau ac opsiynau triniaeth a chymorth sy’n ymwneud â straen, pryder ac iselder
• Beth mae disgwyl i’n sefydliad ei wneud i weithwyr sydd dan straen, yn bryderus neu’n isel eu hysbryd
• Beth mae disgwyl i unigolion ei wneud drostynt eu hunain
• Beth i’w wneud pan na fydd hyn yn gweithio a bod y broblem yn gwaethygu
• Iaith a phynciau priodol ar gyfer cyfarfodydd 1:1 gyda staff sy’n cael trafferth
Comments are closed.