Mae bod ag ymwybyddiaeth fasnachol yn golygu deall yr hyn y mae ein sefydliad yn ei wneud, a’r cyd-destun y mae’n gweithredu ynddo. Mae’n golygu cael dealltwriaeth dda o’n sefydliad, sut mae’n gweithio, pwy yw ei gwsmeriaid, sut mae’n ychwanegu gwerth atynt a beth sy’n dylanwadu ar ein llwyddiant, a pherfformiad cyffredinol y sefydliad.
Yn y cwrs hwn bydd yr Academi yn eich annog i gymhwyso gwybodaeth i’ch maes gwasanaeth/tîm. Drwy fod yn chwilfrydig, gan ofyn cwestiynau a cheisio atebion ynglŷn â sut mae eich tîm eich hun a thimau eraill yn gweithio, beth mae eich cydweithwyr yn ei wneud, a sut mae eich rôl yn cyd-fynd a’u rôl hwy, byddwch eisoes wedi mynd ymhell tuag at ddod yn fwy ymwybodol yn fasnachol.
Cynnwys Cwrs
• Mynegi cenhadaeth a diben ein sefydliad• Deall sut mae’r amgylchedd allanol yn effeithio ar ein sefydliad
• Disgrifio’r gadwyn werth trwy’r gweithgareddau, adnoddau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd allweddol yn ein sefydliad
• Egluro sut mae gwerth yn cael ei greu yn eich rôl eich hun a sut mae’n berthnasol i bobl eraill ar draws y sefydliad
• Gwerthuso sut yr ydych yn ymwneud ar hyn o bryd â chwsmeriaid (mewnol ac allanol), cystadleuwyr a rhanddeiliaid, a nodi’r hyn y gellid ei wneud i ymgysylltu â hwy’n fwy effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn cael gwerth.
Comments are closed.