Mae ein cwrs ymwybyddiaeth o fyddardod yn cyfuno mewn modd unigryw wybodaeth am y dechnoleg ddiweddaraf a sgiliau cyfathrebu, gan ddod a chi’n gyfredol a’r byd heddiw. Hyfforddwch eich staff mewn Ymwybyddiaeth Byddardod a sicrhewch wasanaeth a gweithle ardderchog. Bydd hyn yn sicrhau y bydd gan eich staff y sgiliau a’r wybodaeth i gyfathrebu’n effeithiol a hefyd i gyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol. Bydd gwella sgiliau cyfathrebu o fewn eich gweithle yn sicrhau eich bod yn diwallu anghenion pobl sydd wedi colli eu clyw.
Cynnwys Cwrs
• Nodi a gweithredu atebion i sefyllfaoedd lle mae pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn wynebu rhwystrau hygyrchedd neu gyfathrebu• Cydnabod ac ymateb i ffyrdd gwahanol y gall pobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw gyfathrebu
• Deall ac arddangos sut y gallwch ymgysylltu a chyfathrebu â phobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar y clyw
Comments are closed.