Amdanom ni

Mae Academi Cyngor Caerdydd yn arbenigo mewn darparu hyfforddiant i sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Fel adain hyfforddi Cyngor Caerdydd, mae gennym ddealltwriaeth ddofn o’r pwysau a wynebir gan y sector cyhoeddus ac rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau i helpu i gwrdd â’r heriau hynny.

Rydym yn hyderus y gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r ateb hyfforddiant cywir ai ydych yn paratoi i ailstrwythuro ac eisiau gwella Sgiliau Cais a Chyfweliad, neu os ydych am wella dealltwriaeth o Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle, neu ddatblygu Sgiliau Entrepreneuriaid.

Os hoffech wybod mwy am y cyrsiau sydd gennym i’w gynnig, cliciwch yma i weld ein Catalog Hyfforddiant.

Sicrheir ansawdd trwy ein statws Canolfan Gymeradwy â sefydliadau hyfforddi a gydnabyddir yn rhyngwladol:

ILM

  • Cyflwyniad i Entrepreneuriaeth (Ardystiedig)
  • ILM Lefel 3 yn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • ILM Lefel 3 yn Hyfforddi a Mentora

IOSH

  • Rheoli’n Ddiogel
  • Rheoli’n Ddiogel (Gloywi)
  • Gweithio’n Ddiogel

Ysgol Fusnes Caerdydd

  • Gwella Gwasanaeth (Camau Cyntaf a Chanolradd)

Llogi

Mae gennym 6 ystafell hyfforddiant hygyrch o wahanol feintiau, gan gynnwys dwy ystafell TG sydd ar gael i’w llogi. Mae’r ystafelloedd wedi’u cynllunio i fod yn hyblyg a gallant ddarparu ar gyfer y grwpiau neu’r seminarau lleiaf ar gyfer hyd at 50 o gynrychiolwyr.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein hystafelloedd neu brisiau llogi cliciwch yma.

© Cardiff Council Academy - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd