Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at reolwyr, goruchwylwyr neu fentoriaid pobl ifanc a gyflogir o fewn y Cyngor drwy’r Cynllun Prentisiaeth Corfforaethol neu ar leoliad drwy Gynllun Hyfforddi Plant sy’n Derbyn Gofal neu drefniadau hyfforddiant a phrentisiaeth eraill ar draws y Cyngor. Mae’r cynlluniau hyn yn cefnogi pob un o’r 4 Blaenoriaeth Gorfforaethol: “gwell addysg i bawb”, “cefnogi pobl agored i niwed”, “creu mwy o swyddi a swyddi sy’n talu’n well”, a “gweithio gyda’n gilydd i drawsnewid gwasanaethau”.
Rhan allweddol o gyflenwi’r rhain yw uwchsgilio’r gweithlu er mwyn sicrhau bod y lleoliadau a roddir i’n Prentisiaid a Hyfforddeion mor dda ag y gallant fod. I’r rhan fwyaf o bobl ifanc, bydd cael rhywun mewn gwaith i’w cefnogi a’u hannog yn hwb i hyder ac yn cefnogi eu datblygiad. Yn ogystal, mae teimlo’n ddiogel yn flaenoriaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal, a bydd cael oedolyn addas y gallant ymddiried ynddo yn eu mentora ac yn datblygu perthynas dda a hwy yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cynnal eu lleoliadau ac yn llwyddo ynddynt.
Cynnwys Cwrs
• Archwilio datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pobl ifanc• Ysbrydoli Pobl Ifanc
• Deall ffordd o feddwl pobl yn eu harddegau yn yr 21ain Ganrif
• Pobl ifanc mewn byd digidol
• Mentora Pobl Ifanc
• Diogelu
• Deall Trawma ac Ymddygiad
• Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda phobl ifanc
• Cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol pobl ifanc
Comments are closed.