Mae Academi Cyngor Dinas Caerdydd yn falch o gynnig cyrsiau Cymraeg, ar bob lefel, i holl staff y Cyngor. Caiff y cyrsiau eu darparu i chi drwy gydweithrediad rhwng yr Academi a Choleg Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd.
Er mwyn archebu eich lle yn llwyddiannus ar yr hyfforddiant Iaith Gymraeg, bydd angen i chi lenwi:
a) ffurflen mynegi diddordeb (sharepoint link to the form)
b) ffurflen enwebu iaith Gymraeg (sharepoint link to the form)
Dychwelwch y ffurflenni i’r Academi mor fuan ag y gallwch, os gwelwch yn dda.
Caiff yr holl staff archebu lle ar ddau (2) gwrs Iaith Gymraeg fesul blwyddyn galendr.
Er mwyn dod o hyd i’r cwrs Iaith Gymraeg sy’n addas i chi neu os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dolenni isod:
Coleg Caerdydd a’r Fro:
http://www.cavc.ac.uk/en/courses/welsh-adults-courses/
Prifysgol Caerdydd:
https://welshforadults.cardiff.ac.uk/
Comments are closed.