Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr recriwtio a phaneli cyfweld sy’n recriwtio gan ddefnyddio proffiliau rôl. Mae’r ffocws ar gyfweliadau yn seiliedig ar gymhwysedd a darparu canllawiau clir ar y broses recriwtio o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys sut i ddefnyddio gwaith papur recriwtio i asesu cymhwysedd ymgeiswyr mewn ffordd wrthrychol.
Cynnwys Cwrs
• Y broses recriwtio a dethol: Elfennau allweddol• Delio â goddrychedd, amrywiaeth ac arfer da
• Materion cyfreithiol o bwys mewn recriwtio a dethol
• Llunio disgrifiad swydd, manyleb person ac ysgrifennu cymwyseddau
• Paratoi cwestiynau a thechnegau holi; strwythuro’r cyfweliad
• Ymarfer eich sgiliau cyfweld a dethol: chwarae rôl mewn cyfweliad dethol
• Gwneud penderfyniad: cyrraedd penderfyniadau dethol ar seiliau cadarn; gwerthuso ymgeiswyr ar y cam llunio rhestr fer ac ar ôl cyfweliad; adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus
Comments are closed.